Mary DoreenJONESDymuna Irfon, Aled, Helen, Elin a Mared, teulu'r diweddar Mary Doreen Jones, 10 Ffordd Llifon, Llangefni ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, mamgu a ffrind arbennig iawn. Gwerthfawrogwyd y galwadau ffôn, y cardiau cydymdeimlad, y negeseuon ar y we a'r geiriau caredig ynddynt. Diolch i Feddygfa Tal-y-Bont Llangefni, Hafan Menai, Nyrsys Hosbis yn y Cartref a gofalwyr Carelink am eu gofal cyson a thyner o Doreen dros gyfnod hir ei salwch. Yr ydym yn ddyledus iawn hefyd i'r Parchedig John Morgan Jôb, cyfaill agos i'r teulu am ei arweiniad yn y gwasanaethau yn Amlosgfa Bangor ac ar lan y bedd yn Nhalybont, Ceredigion a fu'n fugeiliaeth gynhaliol i ni. Diolch hefyd i'r ymgymerwyr, R&A Hughes a'i fab Llangefni, am eu gwaith trylwyr gyda'r trefniadau. Yn olaf, diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Doreen tuag at Feddygfa Tal-y-Bont a Hosbis yn y Cartref.
Keep me informed of updates